Ynglŷn â’r Prosiect

Mae Casnewydd adeg y Rhyfel: Gweithiau Celf a Straeon o'r Ffrynt Cartref yn brosiect parhaus gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd sy'n casglu gwybodaeth hanesyddol am Ffatri Arfau'r Goron Rhif 11 yng Nghasnewydd a gwaith cysylltiedig gan yr artistiaid adeg y rhyfel, y Fonesig Laura Knight a Stanley Lewis, o 1941-45.

Mae'r wefan yn cynnwys ffotograffau nas cyhoeddwyd o'r blaen a dynnwyd yn Ffatri Arfau'r Goron i hysbysu ymwelwyr am weithdrefnau peirianneg. Heddiw mae'r ffotograffau hyn yn rhoi cofnod unigryw i ni o waith a gweithgareddau cymdeithasol Ffatri Arfau'r Goron yn ystod y rhyfel.

Rhwng 2004 a 2005 cafodd yr wybodaeth sydd ar y safle hwn ei hategu gan arddangosfa o ddeunydd adeg y rhyfel o'r casgliadau yn yr Amgueddfa a'r Oriel Gelf.  

Gwnaeth llyfr ffotograffau coffaol, Wartime Newport: The Gun Factory
(ISBN 0-95619136-0-3) gyd-fynd â'r arddangosfa yn 2004.

Galluogodd cefnogaeth ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gynt) y prosiect hwn i ddechrau, ynghyd â chyfraniadau gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru ac Amgueddfa Ryfel Ymerodrol Llundain.

Ers 2023, mae Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd (FoNMAG) yn cefnogi costau gweithredol yn hael.


Explore Wartime Newport

Gellir defnyddio'r wefan hon ar unrhyw ddyfais (ffôn, cyfrifiadur llechen neu gyfrifiadur) ond ar gyfer y profiad gwylio gorau rydym yn argymell ffenestr porwr sgrin lawn ar gyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur.
Cliciwch ar unrhyw deilsen isod i archwilio'r adran honno, neu defnyddiwch y ddewislen ar y chwith i we-lywio.
Cliciwch ar unrhyw lun i archwilio fersiwn mwy.